Gwybodaeth

  • Cronfa ddata geiriadurol Gymraeg yw WordNet Cymraeg.
  • Mae WordNet Cymraeg yn dilyn strwythur WordNet, a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer Saesneg, ac ers hynny mae wedi ei fabwysiadu gan WordNet mewn ieithoedd eraill.
  • Caiff geiriau eu grwpio mewn setiau o gyfystyron (synsetau) sy'n trefnu rhwydwaith o gysylltiadau semanteg-eiriadurol y gallwch lywio drwyddynt drwy ddefnyddio'r porwr.
  • Gellir defnyddio WordNet Cymraeg mewn rhaglenni technoleg iaith i gefnogi'r ddealltwriaeth o ystyr a fynegir mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar.
  • Mae WordNet Cymraeg wedi'i ddatblygu gan dîm CorCenCC.
  • Mae WordNet Cymraeg wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.